Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn bod Aelod (âyr Aelodâ) o Gyngor Cymuned Pengelli a Waungron (ây Cyngor Cymunedâ) wedi torriâr Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant personol a rhagfarnus wrth ystyried cais cynllunio ar gyfer datblygiad tai gerllaw ei eiddo. Honnwyd hefyd, pan ddechreuodd y gwaith ar y datblygiad tai, fod yr Aelod wedi rhwystro lorĂŻau rhag mynd i mewn iâr safle ac wedi bygwth y contractwr datblygu â llythyr cyfreithiwr, yn dweud ei bod yn gweithredu ar ran y Cyngor Cymuned.
Ystyriodd yr ymchwiliad y paragraffau canlynol oâr Cod Ymddygiad:
6(1)(a) – Ni ddylai Aelodau ymddwyn mewn modd fyddai’n peri i bobl gredu’n rhesymol eu bod yn dwyn anfri ar eu swydd neu awdurdod.
7(a) â Rhaid i aelodau, yn rhinwedd eu swyddogaeth swyddogol neu fel arall, beidio â defnyddio na cheisio defnyddio eu swydd yn amhriodol er mantais neu anfantais iddynt hwy eu hunain nac i unrhyw berson arall.
11 â Rhaid i aelodau ddatgelu bodolaeth a natur buddiant personol cyn cymryd rhan mewn unrhyw fusnes oâu hawdurdod y maeân ymwneud ag ef.
14 â Rhaid i aelodau, oni bai eu bod wedi cael gollyngiad gan bwyllgor safonau eu hawdurdod, ymneilltuo o gyfarfod syân ystyried unrhyw fusnes yr awdurdod y mae ganddynt fuddiant syân rhagfarnu ynddo a pheidio â cheisio dylanwadu ar benderfyniad ynghylch y busnes hwnnw.
Yn ystod yr ymchwiliad, ystyriwyd gwybodaeth gan y Cyngor Cymuned a’r contractwr datblygu a chyfwelwyd tystion.
Canfuâr ymchwiliad, pan ddaeth y cais cynllunio gerbron y Cyngor Cymuned fel rhan o broses ymgynghori, y cynghorwyd yr Aelod yn anghywir nad oedd angen iddi ddatgan buddiant. Canfuâr Ombwdsmon, gan fod yr Aelod yn byw gerllawâr datblygiad tai ac yn rhedeg busnes oâi heiddo, ei bod yn debygol bod ganddi fuddiant personol a rhagfarnol yn y cais cynllunio, ac, felly, efallai ei bod wedi torri paragraffau 11 a 14. o’r Cod Ymddygiad.
Canfu’r ymchwiliad, er y gallai’r Aelod fod wedi dylanwadu ar aelodau eraill yn y cyfarfod, cyflwynodd y Cyngor Cymuned cyfan ei wrthwynebiadau i’r cais cynllunio. Fodd bynnag, cytunwyd ar y cais cynllunio yn y pen draw gan y Cyngor Sir, ac aeth y datblygiad yn ei flaen. Felly, nid oedd cyfranogiad yr Aelod a’r gwrthwynebiad i’r cais cynllunio gan y Cyngor Cymuned yn achosi anfantais i’r ymgeisydd. Roedd yr Ombwdsmon hefyd oâr farn nad oedd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cefnogiâr honiad bod yr Aelod wedi rhwystro lorĂŻau ac wedi bygwth y contractwr â llythyr cyfreithiwr nac wedi awgrymu bod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol neu wedi dod ââi swydd fel aelod neuâr Gymuned. Cyngor i anfri drwy dorri paragraffau 6(1)(a) neu 7(a) o’r Cod Ymddygiad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y cyngor anghywir yn darparu rhywfaint o liniariad ar gyfer gweithredoedd yr Aelod a, chan nad oedd yr ymddygiad yn effeithio ar ganlyniad y cais cynllunio, roedd yn annhebygol y byddai sancsiwn yn cael ei roi, ac nid oedd er budd y cyhoedd i fynd ââr mater ymlaen. . Canfuâr Ombwdsmon felly, o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nad oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas ââr materion yr ymchwiliwyd iddynt.