Cwynodd Mrs A am reolaeth y Bwrdd Iechyd (ây Bwrdd Iechydâ) oâi chyfnod esgor ym mis Mawrth 2020 ar Ă´l i sgan ganfod bod ei babiân fawr ar gyfer y dyddiad geni oedd wediâi roi. Dywedodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ââi chynghoriân iawn am yr opsiynau ar gyfer yr enedigaeth, wedi methu gwrando arni, wedi methu â darparu gofal empathig a oedd yn dangos parch ac wedi methu â lleddfuâr boen yn effeithiol, ac wedi methu â gwneud toriad Cesaraidd (âCSâ) yn gynharach pan nodwyd hynny.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd dim arwyddion clinigol ar gyfer gwneud toriad Cesaraidd yn gynharach. Fodd bynnag, nid oedd digon o dystiolaeth bod Mrs A wedi cael ei chynghoriân briodol am y risgiau aâr manteision syân gysylltiedig â rhoi genedigaeth drwyâr wain a dewisiadau eraill ar gyfer gofal gyda babi yr amheuir ei fod yn faban mawr ar gyfer y dyddiad geni a oedd wedi’i roi. Cafodd Mrs A gryn dipyn o anawsterau yn ystod ei chyfnod esgor y gellid bod wediâu hosgoi gyda thoriad Cesaraidd dewisol cynharach. Roedd y diffyg cyngor priodol wedi achosi ansicrwydd ynghylch ei gallu i wneud dewisiadau am ei gofal ar sail gwybodaeth.
Nid oedd yr Ombwdsmon yn gallu cysoni profiad Mrs A o boen erchyll yn ystod ei chyfnod esgor ââr dystiolaeth o gofnodion y Bwrdd Iechyd a roddodd adroddiad cyson fod y boen wediâi rheoliân dda gan yr holl glinigwyr a oedd yn gysylltiedig ââi gofal. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth o adegau pan oedd Mrs A wedi dweud ei bod mewn poen pan roedd y broses esgor wediâi chadarnhau ac nad oedd cymorth ychwanegol gyda nwy ac aer wediâi roi pan allai hynny fod wedi digwydd. O ganlyniad, roedd cyfnod esgor Mrs A yn fwy poenus nag yr oedd angen iddo fod.
Argymhellodd yr Ombwdsmon iâr Bwrdd Iechyd y dylai ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd, rhannuâr canfyddiadau ââi obstetryddion aâi fydwragedd ar gyfer dysgu yn y sefydliad, a chymryd camau i sicrhau bod pob mam feichiog sydd â babi y tybir ei fod yn faban mawr yn cael cyngor priodol am ei dewisiadau geni.