Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Adra – PSOW Cymraeg

Report Date

30/06/2022

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202201079

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod y Gymdeithas wedi methu â chydnabod ei chwynion a hefyd wedi methu â gweithredu unrhyw waith atgyweirio i’w heiddo.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus fod gwaith atgyweirio i’w wneud o hyd ar eiddo Miss X, a chysylltodd â’r Gymdeithas. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas y byddai’n arolygu eiddo Miss X o ran y pryderon yr oedd ganddi am y gwaith atgyweirio a oedd heb ei wneud, erbyn 2 Awst 2022. Cytunodd y Gymdeithas hefyd y byddai’n cadarnhau gyda Miss X pa waith atgyweirio sydd ei angen ac yn nodi’r amserlen debygol ar gyfer gwneud y rhain. Cytunodd y Gymdeithas hefyd y bydd yn blaenoriaethu unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol i eiddo Miss X ac y bydd y gwaith atgyweirio hwn yn cael ei gwblhau fel mater o frys. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Miss X.