Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cyngor Sir Powys – PSOW Cymraeg

Report Date

19/07/2022

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202201563

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X ei bod yn anfodlon â gwaith adnewyddu diweddar a wnaed gan y Cyngor a’i bod wedi cael ei gadael gyda chegin beryglus am 2 flynedd. Cwynodd Miss X hefyd, er iddi gwyno wrth y Cyngor, nad oedd wedi cael ymateb i’w phryderon eto.

Roedd yr Ombwdsmon yn poeni bod Miss X wedi dod ar draws oedi cyn trwsio ei chegin, ac roedd hefyd yn poeni nad oedd wedi cael ymateb gan y Cyngor eto. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, ac i setlo cwyn Miss X, cytunodd y Cyngor i roi ymateb ffurfiol i Miss X i’w phryderon erbyn 3 Awst 2022 ac i ddarparu llinell amser ar gyfer gweithredu’r gwaith atgyweirio erbyn 3 Awst 2022.