Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn : Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – PSOW Cymraeg

Report Date

25/07/2022

Subject

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Case Reference Number

202201680

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X ei bod yn dod ar draws pryderon gyda’i thîm iechyd meddwl ac er ei bod wedi cyflwyno cwynion i’r Bwrdd Iechyd, nid yw wedi cael ymateb eto.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Ms X wedi derbyn ymateb gan y Bwrdd Iechyd eto ac felly wedi cysylltu â’r Bwrdd Iechyd am ragor o wybodaeth. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n rhoi ymddiheuriad i Ms X am ymateb i’w phryderon erbyn 30 Gorffennaf 2022. Fe wnaeth y Bwrdd Iechyd hefyd gadarnhau y byddai’n rhoi ymateb ffurfiol i bryderon Ms X erbyn 26 Awst 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Ms X.