Cwynodd Mr A fod meddyg teulu (ây Meddyg Teuluâ) yn y Feddygfa wedi methu ag archwilio ei frest yn ddigonol, trefnu unrhyw ymchwiliadau er mwyn gallu trin ei gyflwr, rhoi unrhyw gyngor iddo neu wneud diagnosis cywir o’r cyflwr ar 21 Rhagfyr 2020. Aeth Mr A i’r ysbyty yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a chafodd ddiagnosis o emboli ysgyfeiniol (pibellau gwaed wedi’u rhwystro yn yr ysgyfaint) yn yr ysgyfaint a niwmonitis COVID-19 (ysgyfaint sydd wedi mynd yn llidus oherwydd COVID-19). Cwynodd Mr A hefyd fod ymateb y Feddygfa i’w gĹľyn, am y gofal a gafodd ar 21 Rhagfyr, yn annigonol, yn anghywir ac wedi’i oedi’n ormodol.
Canfuâr Ombwdsmon fod y meddyg teulu wedi asesu a thrin Mr A yn briodol ar 21 Rhagfyr. Ni chadarnhaodd y rhan gofal clinigol o gĹľyn Mr A. Canfuâr Ombwdsmon fod ymateb cychwynnol y Feddygfa i gĹľyn Mr A yn annigonol oherwydd ei fod yn cynnwys gwallau clinigol sylweddol. Roedd oâr farn bod y methiant hwnnw wedi achosi anghyfiawnder i Mr A ar ffurf ansicrwydd a gofid. I raddau cyfyngedig, cadarnhaodd yr agwedd ar gĹľyn Mr A a oedd yn ymwneud ââr gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Feddygfa adolygu ei phroses gwyno i sicrhau bod yr holl wybodaeth glinigol berthnasol yn cael ei chasglu cyn iddi ymateb i gwynion am ofal clinigol. Wrth wneud yr argymhelliad hwnnw, cymerodd i ystyriaeth y camau yr oedd y Feddygfa eisoes wediâu cymryd mewn ymateb i bryderon Mr A ynghylch ymdrin ââr gĹľyn. Cytunodd y Feddygfa i weithredu’r argymhelliad hwn.