Cwynodd un o weithwyr Cyngor Cymuned Sili a Larnog (ây Cyngorâ) fod Cyn Aelod (ây Cyn Aelodâ) wedi defnyddio iaith bwlio ac amharchus tuag ato yn ystod sgwrs ffĂ´n ym mis Medi 2021.
Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i sefydlu a oedd ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu toriad o baragraffau 4(b), 4(c), a 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad (ây Codâ).
Cwynodd y cyflogai am ymddygiad y Cyn Aelod iâr Heddlu aâr Ombwdsmon ar ddiwrnod y sgwrs ffĂ´n. Ymddiswyddodd y Cyn Aelod o’r Cyngor ar yr un diwrnod. Gwadodd y Cyn Aelod yr honiadau i’r Heddlu, ac ni chymerodd yr Heddlu unrhyw gamau pellach.
Gwrthododd y Cyn Aelod gael ei gyfweld ac nid oedd yn dymuno cymryd rhan yn ymchwiliad yr Ombwdsmon. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Cyn Aelod fod sgwrs ffĂ´n wediâi chynnal ond dywedodd nad oedd y Cod yn berthnasol ar y pryd gan ei fod wedi ymddiswyddo oâr Cyngor. Daeth yr Ombwdsmon i benderfyniad felly ar yr ymchwiliad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael. Daeth iâr casgliad, yn Ă´l pwysau tebygolrwydd, fod y Cyn Aelod yn Aelod ar adeg yr alwad ffĂ´n aâi fod wedi cyfeirio iaith sarhaus tuag at y gweithiwr y gellid ei hystyried yn amharchus ac yn fwlio.
Daeth yr Ombwdsmon i gasgliad bod ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu torri paragraffau 4(b), 4(c), a 6(1)(a) oâr Cod. Fodd bynnag, gan fod y Cyn Aelod wedi ymddiswyddo oâr Cyngor ac nad oedd wediâi ethol i unrhyw Gyngor yn etholiadau mis Mai 2022, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cymryd unrhyw gamau pellach er budd y cyhoedd.