Cwynodd Mrs A am ymgynghoriad gan feddyg teulu y tu allan i oriau (âOOHGPâ) a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2020 yn y lleoliad preswyl (ây Lleoliadâ) lleâr oedd ei mab, B, sydd ag anabledd dysgu, awtistiaeth, epilepsi ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd yn byw. Yn benodol, cwynodd am y canlynol:
⢠Casgliad yr OOHGP oedd nad oedd poen ei mab yn debygol o fod yn lid y pendics.
⢠Addasiadau rhesymol gan yr OOHGP aâr Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau, yn enwedig yng nghyswllt cyfathrebu a rheoli poen.
⢠Delio â chžyn.
Y diwrnod canlynol, cafodd ei mab ei dderbyn iâr ysbyty aâi ddiagnosio aâi drin ar gyfer llid y pendics.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, ar Ă´l ystyried y dystiolaeth yn ofalus, fod casgliad dogfennol yr OOHGP bod gan B salwch dolur rhydd yn ddiagnosis credadwy yn seiliedig ar gyflwyniad clinigol B ar y pryd a bod yr OOHGP wedi cynnal asesiad digonol o B. Canfu’r Ombwdsmon, ynglšn â’r dystiolaeth ddadleuol am yr hyn a drafodwyd drwy gyfrwng cyngor rhwydo/gwaethygu o ran diogelwch, hyd yn oed pe na bai’r OOHGP wedi rhoi’r cyngor rhwydo diogelwch a gofnododd ei fod wediâi roi, nid oedd hyn yn effeithio ar y gyfres ddilynol o ddigwyddiadau, gan fod y Lleoliad wedi gweithredu’n gywir ac wedi gofyn am gymorth meddygol priodol y diwrnod canlynol. Er nad ywâr Ombwdsmon yn dymuno lleihauâr gofid sylweddol y gwnaeth y digwyddiadau hyn eu hachosi i B aâi rieni, daeth iâr casgliad, er hynny, nad oedd camauâr OOHGP yn afresymol ac na fyddent yn arwain at fethiannau yn y gwasanaeth ar sail safonau clinigol yr Ombwdsmon. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gĹľyn Mrs A.
O ran addasiadau rhesymol, er bod yr Ombwdsmon yn cydnabod safbwynt Mrs A aâi phryderon na wrandawyd arni, ar y cyfan, ar Ă´l ystyried y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd, daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod yr addasiadau a wnaeth yr OOHGP o ran trafod B gydaâi ofalwyr a Mr a Mrs A yn ddigonol. Ni chadarnhaodd yr elfen hon o gĹľyn Mrs A.
O ran delio â chwynion, canfuâr Ombwdsmon fod oedi cyn darparu cofnod ymgynghoriâr OOHGP i Mrs A cyn cyfarfod datrys lleol rhithiol gydaâr Bwrdd Iechyd. Roedd yr oedi hwn yn golygu nad oedd Mrs A wedi gallu paratoi ar gyfer y cyfarfod gydaâi Heiriolwr fel y byddai wedi dymuno ac roedd hyn wedi achosi anghyfiawnder iddi. Iâr graddau cyfyngedig hyn yn unig, cadarnhawyd y rhan hon o gĹľyn Mrs A.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuroân ysgrifenedig i Mrs A am y diffyg o ran delio â chwynion aâr oedi cyn darparu cofnodion meddygol yr OOHGP.