Cwynodd Mr X fod y Bwrdd Iechyd wedi achosi oedi wrth brosesu atgyfeiriad gan ei feddyg teulu i Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (âAWTTCâ). Cwynodd hefyd fod oedi cyn iddo gael canlyniadau ei waith Beta II Transferrin.
Canfuâr ymchwiliad fod yr apwyntiad a drefnwyd gan y Bwrdd Iechyd gydaâr AWTTC yn dod o fewn y cyfnod aros o 30 wythnos a gynghorodd.
Canfuâr ymchwiliad ymhellach:
1) na chafodd biobrawf Beta II Transferrin ei drefnu gan y Bwrdd Iechyd;
2) nad oedd y labordy a ddarparodd ganlyniadau biobrawf Beta II Transferrin Mr X yn dod o dan gyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd;
3) er gwaethaf hyn, aeth y Bwrdd Iechyd ar Ă´l y canlyniadau ac ymddiheuro i Mr X.
Nid oedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhauâr cwynion. Gan na nodwyd unrhyw fethiannau, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion ynghylch y gĹľyn hon.