Cwynodd Mrs X am drylwyrder yr asesiad clinigol gan Ymatebwr Cyntaf Cymunedol (âCFRâ, gwirfoddolwyr a gymeradwyir gan yr Ymddiriedolaeth i ymateb i fathau penodol o alwadau brys yn eu cymuned leol) ar 9 Medi 2020 pan ddaeth y CFR at ei thad, Mr Y, yn dilyn galwad 999. Roedd Mrs X yn bryderus hefyd fod oedi wedi bod cyn anfon ambiwlans yn Ă´l arsylwadauâr CFR a oedd wediâu cofnodi ac a oedd yn dweud bod cyflwr Mr Y yn âsefydlogâ; dywedodd Mrs X nad oedd yr arsylwadau a gofnodwyd yn awgrymu bod y claf yn âsefydlogâ.
Canfuâr Ombwdsmon, ar Ă´l ystyried y cyngor proffesiynol a gafodd gan ei chynghorydd proffesiynol, ei bod yn briodol i anfon CFR ar sail yr wybodaeth a gafwyd yn ystod yr alwad 999. Roedd yr alwad yn un a oedd wediâi chymeradwyo ymlaen llaw lle gellid anfon CFR, a bod yr asesiad a gynhaliwyd o fewn cwmpas cymhwystraâr CFR ac o fewn terfynau ymarfer derbyniol.
Canfuâr Ombwdsmon hefyd nad oedd y ffaith maiâr CFR a ymatebodd iâr alwad wedi arwain at israddioâr alwad ambiwlans; ni fu newid ym mlaenoriaeth Mr Y. Nid oedd presenoldeb ac arsylwadauâr CFR (sydd fel arfer yn arwydd o glaf sefydlog) yr oedd wediâi rhannu ââr ganolfan gyswllt wedi cyfrannu at nac wedi achosi oedi cyn anfon ambiwlans. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion.