Cwynodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi canfod natur gymhleth ei hesgoriad yn brydlon, nad oedd wedi rheoliâr esgoriad hwnnwân briodol ac nad oedd wedi darparu gofal Ă´l-enedigol priodol iddi. Dywedodd nad oedd y Bwrdd Iechyd, ar Ă´l 3 diwrnod o ymweliadau ââr ysbyty a galwadau ffĂ´n ganddi, wedi cwestiynu ei hesgoriad cymhleth. Awgrymodd ei fod wedi oediân ddiangen cyn cynnal toriad Cesaraidd aâi bod wedi datblygu cymhlethdodau o ganlyniad i’r modd roedd wedi rheoli ei hesgoriad. Dywedodd fod y gofal a gafodd ar Ă´l cael ei rhyddhau oâr ysbyty ây nesaf peth i ddimâ. Mynegodd bryderon hefyd am ei harchwiliad Ă´l-enedigol 8 wythnos aâi bod wedi gorfod dychwelyd iâr ysbyty i gael gwrthfiotigau mewnwythiennol.
Nid oedd yr Ombwdsmon, er ei bod yn cydnabod bod esgoriad Ms A yn un anodd iawn iddi, oâr farn ei fod yn gymhleth. Ni chanfu felly nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â chanfod natur esgoriad Ms A yn brydlon. Ni chadarnhaodd yr agwedd hon ar gĹľyn Ms A. Canfu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod yn llawn natur faith cyfangiadau poenus Ms A yn ystod cam cynnar iawn ei hesgoriad a bod yr anwaith hwnnw wedi ychwanegu at drallod Ms A. Roedd yn fodlon bod y ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi rheoli esgoriad Ms A, ac eithrioâr mater o gydnabod a nodwyd, yn glinigol briodol. Cadarnhaodd y rhan o gĹľyn Ms A a oedd yn ymwneud â rheoli ei hesgoriad, i raddau cyfyngedig iawn. Canfu fod y gofal Ă´l-enedigol a ddarparwyd i Ms A yn briodol. Ni chadarnhaodd yr elfen hon o gĹľyn Ms A.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Ms A i ymddiheuro gan gydnabod y methiant a nodwyd ac i egluroâr rheswm am yr oedi cyn ysgogi (cychwyn yn artiffisial) ei hesgoriad. Gofynnodd iddo rannu ei hadroddiad ymchwilio ââr staff bydwreigiaeth priodol. Argymhellodd y dylai gymryd camau penodol i wella trefniadau gan Fydwragedd i gofnodi galwadau ffĂ´n gan ddarpar famau yn ystod cam cynnar iawn eu hesgoriad. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithreduâr argymhellion hyn.