Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – PSOW Cymraeg

Report Date

18/11/2022

Subject

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Case Reference Number

202106781

Outcome

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr Y nad oedd ei fab, Mr X, wedi cael cynnig apwyntiadau neu gyngor priodol ar 16 neu 19 Hydref 2020.

Canfu’r ymchwiliad ei bod yn rhesymol i Mr X gael ymgynghoriadau dros y ffôn gyda’i feddyg teulu ar y dyddiadau hyn. Roedd hyn am fod y Feddygfa o dan gyfyngiadau COVID-19 ar y pryd ac nid oedd y symptomau a adroddwyd gan Mr X yn awgrymu angen brys am apwyntiad wyneb yn wyneb. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod asesiad Mr X a’r modd y cafodd ei reoli’n briodol. Yn anffodus, cafodd Mr X ddiagnosis o ganser datblygedig ar 30 Hydref a bu farw yn y cyfamser, ond daeth yr ymchwiliad i’r casgliad na wnaeth cysylltiad y Feddygfa â’i ofal ddylanwadu ar y canlyniad hwn.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion. Gan na chanfuwyd dim methiannau, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion yn achos y gŵyn hon.