Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl) : Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – PSOW Cymraeg

Report Date

17/11/2022

Subject

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Case Reference Number

202204018

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B am nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi amserlen yn egluro pa bryd y byddai mewn sefyllfa i wneud trefniadau angenrheidiol fel y gallai ei waith Cofnodi Profiadau Bywyd gychwyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi diweddaru Mr B yn rheolaidd, nad oedd wedi tawelu ei bryderon a bod hynny wedi achosi rhwystredigaeth gan ei fod yn dweud nad oedd wedi gallu cael gofal a chymorth priodol.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i egluro wrth Mr B y rhesymau pam nad yw wedi gallu cynnig amserlenni a’i atgoffa o’r diweddariadau y mae wedi’i rhoi hyd yma, o fewn 3 wythnos.