Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Maethu. Plant sy’n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig : Cyngor Castell-nedd Port Talbot – PSOW Cymraeg

Report Date

14/11/2022

Subject

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Case Reference Number

202204132

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r gŵyn am y gwasanaethau cymdeithasol roedd wedi’i chyflwyno ym mis Ionawr 2022.

Wrth ystyried y gŵyn, nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi anfon ymateb cychwynnol ond nad oedd wedi delio â phryderon Ms X yn unol â phroses gwyno gwasanaethau cymdeithasol a’i fod yn hytrach wedi cau’r achos. I setlo’r gŵyn gofynnodd i’r Cyngor gymryd y camau canlynol:

a) Cysylltu â Ms X o fewn 15 diwrnod gwaith i ailgychwyn y broses gwyno statudol.

b) Ymddiheuro i Ms X am gau ei chŵyn.

c) Cynnig iawndal o £125 i Ms X am ei hamser a’i thrafferth i fynd ati i gwyno i’r swyddfa hon, ac am yr oedi a fu cyn rhoi sylw i’w phryderon o dan y broses gwyno statudol.