Ystyriodd yr ymchwiliad gĹľyn Ms A am ei thriniaeth gan Feddygfa Meddygon Teulu (ây Practisâ), yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ).
Dywedodd Ms A ei bod wedi dweud wrth Uwch Ymarferydd Nyrsio Iechyd Meddwl y Practis ar 15 Hydref 2020 ei bod yn cael adwaith niweidiol i sertraline (math o wrthiselyddion). Fodd bynnag, methodd AMHNP ââi chynghori i roiâr gorau iâr feddyginiaeth neu weithredu ar y dirywiad yn iechyd meddwl Ms A. Dywedodd Ms A fod AMHNP wedi methu trefnu apwyntiad dilynol a threfnu profion gwaed i ymchwilio iâw symptomau. Dywedodd Ms A fod yr AMHNP, maes o law, wedi ei chynghori i roiâr gorau iâr sertraline, ond gwnaethpwyd hyn yn gyflym a datblygodd symptomau o ganlyniad i roiâr gorau i’w cymryd. Dywedodd Ms A fod yr AMHNP wedi methu cydnabod ac ymateb iâw hargyfwng iechyd meddwl ac wedi ymateb iddi drwy alwâr Heddlu aâi thywys oâr Practis. Dywedodd Ms A ei bod wedi cael ei thynnu oâr Practis ar unwaith aâi bod yn credu bod yr ymateb hwn yn amhriodol ac yn ddiangen gan fod ei hymddygiad yn deillio oâi salwch.
Canfuâr ymchwiliad fod Ms A yn arddangos symptomau iselder ar 15 Hydref ac felly roedd yn briodol peidio â rhoiâr gorau i gymryd sertraline. Roedd hiân rhesymol hefyd i beidio â threfnu dyddiad dilynol pendant ar Ă´l yr apwyntiad ar 15 Hydref. Ni chafodd yr AMHNP gyfarwyddyd i drefnu profion gwaed gan y meddyg teulu ac felly ni ellid ei beirniadu am beidio â gwneud hynny. Fodd bynnag, gwahoddwyd y Practis i atgoffaâr meddygon teulu oâr rhwymedigaethau a osodir arnynt gan ganllawiau moesegol y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer meddygon. Roedd y penderfyniad clinigol i roiâr gorau i ragnodi sertraline drwy leihauân raddol ar 1 Rhagfyr yn briodol. Er nad oedd cyflymder y gostyngiad yn cyd-fynd ââr canllawiau rhagnodi, maeân debygol bod effaith y sgil-effeithiau o ganlyniad i barhad dros gyfnod hwy wedi bod yn waeth yn glinigol i Ms A naâr sgil-effeithiau rhoiâr gorau i gymryd y feddyginiaeth.
Nid oedd tystiolaeth yn y cofnodion clinigol o drafodaeth rhwng yr AMHNP aâr meddyg teulu syân rhagnodi cyn lleihauâr dos sertraline. Ar ben hynny, nid oedd tystiolaeth o drafodaeth rhwng yr AMHNP naâr meddyg teulu syân rhagnodi am roi gwybod i Ms A am y sgil-effeithiau y gallai ddod ar eu traws yn ystod y broses o roiâr gorau iddi; wynebodd Ms A anghyfiawnder o ganlyniad iâr methiant hwn gan nad oedd hi wedi paratoi ar gyfer yr effaith tymor byr y byddai rhoiâr gorau iddi yn debygol oâi chael arni. Canfuâr ymchwiliad fod Ms A wedi ymddwyn yn ymosodol ar 15 Rhagfyr, roedd y staff yn poeni am eu diogelwch ac roedd galwâr heddlu yn briodol. Yn olaf, canfuâr ymchwiliad fod y weithdrefn gywir wediâi dilyn wrth dynnu Ms A oddi ar restr y Practis, fodd bynnag, yn y dyfodol byddaiâr Practis yn rhoi gwybod i gleifion am y penderfyniad cyn cael gwybod gan y Bwrdd Iechyd eu bod wediâu tynnu oddi ar y rhestr.
Cytunodd y Practis i ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd. Cytunodd hefyd i ystyried y methiannau aâr sylwadau yn yr adroddiad ac i atgoffaâr holl staff o bwysigrwydd cadw cofnodion da yng nghyswllt trafodaethau rhwng rhagnodwyr a staff. Gwahoddwyd yr AMHNP i ystyried canfyddiadauâr adroddiad yn ei gwerthusiad blynyddol nesaf.