Cwynodd Mr J am y diffyg gofal a thriniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) o fis Mai 2021 ymlaen mewn ymateb i bryderon a godwyd ganddo ynghylch poen yn y frest, gwaed yn ei ymgarthion a phoen yn ei ben-glin.
Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon iâr casgliad y dylai symptomau Mr J, a gafodd eu brysbennu gan nyrs, fod wedi cael eu trafod ymhellach gyda meddyg teulu, er mwyn penderfynu a oedd angen rhagor o brofion ar Mr J. Ni ddigwyddodd hyn ac roedd yn fethiant yn y gwasanaeth. Roedd hefyd yn destun pryder nad oedd sampl carthion Mr J wedi cael ei anfon iâw ddadansoddi, gan y gallai hyn fod wedi arwain, o bosibl, at syniad oâr problemau yr oedd Mr J yn eu hwynebu. Hefyd, dylai Mr J fod wedi cael ei asesuân fwy prydlon pan ofynnodd am weld meddyg teulu ar 27 Gorffennaf ynghylch straen, pryder ac iselder. Ni chafodd ei weld am fis arall; roedd hyn hefyd yn fethiant yn y gwasanaeth. Arweiniodd y ddau fethiant hyn yn y gwasanaeth at oedi pellach cyn ymchwilio ymhellach i symptomau Mr J. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mr J a chafodd y gĹľyn ei chyfiawnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr J a threfnu triniaeth briodol petaiân dal i brofiâr un symptomau. Argymhellwyd hefyd y dylaiâr staff syân ymwneud â gofal Mr J ystyried canfyddiadau adroddiad yr Ombwdsmon ac ystyried pa wersi y gellid eu dysgu, gyda phwyslais arbennig ar uwchgyfeirio pryderon difrifol yn gynt. Cytunodd y Bwrdd Iechyd â’r argymhellion hyn.