Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd yr ymatebwyr/cerbydau ymateb priodol wediâu hanfon at Mr A (a oedd wediâi gategoreiddio fel Ambr 1) o fewn amserlen briodol ac a oedd y penderfyniad i deithio ar gyflymder arferol iâr ysbyty (heb ddefnyddio seiren a goleuadau glas) yn briodol.
Canfuâr ymchwiliad fod Mr A wediâi gategoreiddioân gywir fel Ambr 1. Er nad oes amser targed ymateb wediâi ddiffinio ar gyfer categori Ambr 1, nod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ymateb âcyn gynted ag y bo moddâ. Canfuâr ymchwiliad fod ymatebwyr a cherbydau priodol wediâu hanfon at Mr A. Dylai Ambiwlans Brys fod wedi cyrraedd Mr A yn gynt. Fodd bynnag, dyrannwyd un cyn gynted ag y daeth un ar gael. Ni allaiâr ymchwiliad benderfynu a fyddai dyrannu Ambiwlans Brys yn gynharach wedi newid y canlyniad clinigol ar gyfer Mr A gan ei fod wedi gorfod aros yn hir y tu allan iâr ysbyty cyn cael ei dderbyn. Canfuâr ymchwiliad fod y penderfyniad i deithio ar gyflymder arferol iâr ysbyty yn briodol. Ni chafodd y gĹľyn ei chadarnhau.