Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

01/12/2022

Subject

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Case Reference Number

202204341

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X ei bod yn anfodlon â’r ymateb yr oedd y Practis wedi’i roi i’w chŵyn.

Nododd yr Ombwdsmon fod Ms X wedi gofyn i’r Practis ymateb i nifer o gwestiynau a nodwyd yn ei llythyr cwyno. Nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod ymateb y Practis, mewn gwirionedd, wedi rhoi sylw digonol i’r holl faterion a godwyd. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y byddai’n ddefnyddiol i Ms X gael ymateb ysgrifenedig pellach. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i roi ymateb ysgrifenedig llawn i Ms X o fewn 30 diwrnod gwaith.