Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn gan aelod oâr cyhoedd bod aelod o Gyngor Cymuned Brymbo a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi torriâr Cod ymddygiad (ây Codâ) pan wnaeth gĹľyn ffug honedig am yr achwynydd iâr Heddlu, yn ymwneud â digwyddiad a ddigwyddodd ar fws.
Roedd yr Aelod wedi anfon e-bost at yr Heddlu gan ddatgan bod yr achwynydd wedi bod yn ymosodol iawn, a chredai fod ei hymddygiad yn gyfystyr â thorri heddwch neu drosedd trefn gyhoeddus. Roedd hefyd yn bryderus am sylwadau personol a wnaed iddo gan yr achwynydd.  Awgrymodd iddo fod yn ddarostyngedig i gam-drin geiriol heb gyfiawnhad.
Cafodd yr Ombwdsmon wybodaeth gan yr Heddlu a lluniau teledu cylch cyfyng gan y cwmni bysiau. Ar Ă´l ystyried y wybodaeth oedd ar gael, ni ystyriodd fod yr achwynydd yn ymddangos yn ymosodol fel yr awgrymodd yr Aelod, a chanfu fod y sylwadau a wnaed gan yr achwynydd yn ymwneud â materion a oedd yn hysbys i’r cyhoedd. Ar sail y wybodaeth a oedd ar gael, ni ystyriodd y gellid yn rhesymol eu hystyried yn âgam-drin geiriolâ.
Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod gohebiaeth yr Aelod iâr Heddlu yn gamarweiniol neu wedi ei gorliwio, a bod ei ymddygiad yn awgrymu torri paragraff 7(a) oâr Cod Ymddygiad. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad hefyd fod ceisio camddefnyddio ei swydd yn y modd hwn a chyhuddo rhywun ar gam o gyflawni trosedd trefn gyhoeddus yn gallu dwyn anfri ar swydd neu awdurdod yr Aelod aâi fod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) y Cod Ymddygiad.
Felly, cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi torri paragraffau 6(1)(a) a 7(a) o’r Cod a chafodd ei wahardd o’r ddau Gyngor am 3 mis.