Cwynodd Mrs Y am y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei diweddar Ĺľr, Mr Y, yn Ysbyty Ystrad Fawr (âyr Ysbytyâ) rhwng 18fed Ionawr aâr 5ed Chwefror 2021 pan, yn drist iawn, y bu farw. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a fethwyd â darparu gofal priodol o ran hydradu, maeth a meddyginiaeth; a oedd oedi wedi bod cyn rhoi cyffuriau gwrth-fiotig iddo ar 23ain Ionawr pryd y cofnodwyd sepsis fel yr oeddid wediâi amau, ac eto ar y 1af aâr 2il Chwefror yn dilyn trafferthion yn ail-ganwleiddio Mr Y; a oedd rhoi meddyginiaeth ragofaluân glinigol briodol ac a oedd y cyfathrebu gyda Mrs Y, a hithauân methu â dod i weld Mr Y oherwydd cyfyngiadau Covid-19, yn briodol.
Casglodd yr Ombwdsmon fod Mr Y wedi derbyn lefel briodol o ofal o ran hydradu, maeth a meddyginiaeth. Casglodd nad oedd unrhyw oedi wedi bod gyda rhoi cyffuriau gwrthfiotig ar 23ain Ionawr (pryd nad oedd sepsis yn bresennol) ac er y cafwyd oedi ar y 1af aâr 2il Chwefror oherwydd trafferthion yn canwleiddio Mr Y, nid oedd colli dau ddos o gyffuriau gwrthfiotig wedi cael effaith negyddol ormodol ar Mr Y. Casglodd yr Ombwdsmon bod rhoiâr feddyginiaeth ragofaluân glinigol briodol a bod lefel y cyfathrebu aâr esboniadau a roddwyd i Mrs Y am gyflwr Mr Y yn briodol. Ni dderbyniodd yr Ombwdsmon gwynion Mrs Y.