Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Llifogydd a difrod llifogydd : Cyngor Sir Powys – PSOW Cymraeg

Report Date

10/02/2023

Subject

Llifogydd a difrod llifogydd

Case Reference Number

202205559

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr X fod Cyngor Sir Powys (“y Cyngor”) wedi methu ei ddiweddaru ar waith llifogydd oedd i’w wneud yng nghyffiniau ei eiddo. Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi cysylltu â fo ers Gorffennaf 2022 er eu bod wedi cytuno i’w ddiweddaru.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cysylltu â Mr X ym mis Gorffennaf 2022 ac y byddent yn cysylltu â fo pan oedd ganddynt fwy o wybodaeth. Roedd y Cyngor wedi methu â gwneud hynny ac roedd Mr X yna wedi cwyno i’r Ombwdsmon.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr X, rhoi diweddariad llawn ar y gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn a thalu iawndal o £125 i gydnabod methiant y Cyngor i gyfathrebu ac am yr amser a’r drafferth a achoswyd i Mr X yn gwneud ei gŵyn, o fewn 10 diwrnod gwaith.