Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cyngor Abertawe – PSOW Cymraeg

Report Date

04/01/2023

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202205646

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr L fod Cyngor Abertawe wedi methu â sicrhau bod gwaith atgyweirio a gynlluniwyd wedi’i gwblhau’n amserol gan deimlo bod y cyfathrebu wedi torri lawr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i bryderon Mr L yn unol â’i weithdrefn gwyno a dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac oedi i Mr L.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Cyngor i ymddiheuro wrth Mr L am yr oedi’n ymateb yn ffurfiol i’w bryderon, ac ymchwilio’n ffurfiol i’w bryderon yn unol â’i weithdrefn gwyno, o fewn 30 diwrnod gwaith.