Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch : Cyngor Cymuned Llanusyllt – PSOW Cymraeg

Report Date

03/03/2023

Subject

COD - Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Case Reference Number

202202280

Outcome

COD

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan aelod o’r cyhoedd (“yr achwynydd”) bod Aelod o Gyngor Cymuned Llanusyllt (“y Cyngor”) wedi methu â chadw at y Cod Ymddygiad i Aelodau.

Honnwyd bod yr Aelod wedi mynd at yr achwynydd ac wedi ymddwyn yn ymosodol tuag ato ynghylch mater parcio. Honnodd yr achwynydd fod yr Aelod wedi ymddwyn mewn modd gormesol  a bygythiol ac wedi defnyddio ei safbwynt i’w fychanu a chodi cywilydd arno.

Dywedodd yr achwynydd fod yr Aelod wedi ymddwyn mewn ffordd a oedd yn bwlio ac yn fygythiol. Cydnabu’r Aelod y bu cyfarfod ond dywedodd na wnaeth ymddwyn yn wael yn y rhyngweithio. Nid oes unrhyw dyst arall na thystiolaeth teledu cylch cyfyng ar gael. Ar Ă´l ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y ddau barti dan sylw, nid oedd yr un o’r wybodaeth na’r dystiolaeth a oedd ar gael yn awgrymu y dylid cymryd un cyfrif dros y llall. Felly, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth annibynnol o’r digwyddiad, ni allai’r Ombwdsmon ddweud a oedd ymddygiad yr Aelod yn awgrymu bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri.

Roedd ymchwiliad pellach i’r mater hwn yn annhebygol o esgor ar unrhyw wybodaeth a fyddai’n newid cydbwysedd y dystiolaeth a oedd ar gael ac felly nid oedd yn gymesur nac er budd y cyhoedd i barhau â’r ymchwiliad.