Roedd Mr X yn 69 oed gyda hanes o sglerosis ymledol, hernia bylchol ac emboledd ysgyfeiniol blaenorol. Ar 25 Mawrth 2019, ar Ă´l iâw feddyg teulu atgyfeirio Mr X i Ysbyty Brenhinol Morgannwg (âyr Ysbytyâ) gyda dryswch, deliriwm ac amheuaeth o haint y llwybr wrinol is, cafodd ei dderbyn. Yn anffodus, bu farw Mr X ar 19 Ebrill. Cwynodd Mrs X am driniaeth Mr X yn yr Ysbyty rhwng 25 Mawrth a 19 Ebrill.
Canfuâr Ombwdsmon fod triniaeth Mr X aâi reolaeth ar ward resbiradol yn rhesymol. Canfu hefyd ei fod wedi cael cymorth gyda deiet a hylif, bod y gofal nyrsioân dda ac nid oedd unrhyw feirniadaeth oâr cyfathrebu rhwng nyrsys a meddygon.
Canfuâr Ombwdsmon bod methu â rhoi meddyginiaeth nebiwleiddwyr salbutamol, ni roddwyd meddyginiaeth Betmiga MR ac nid oedd ar gael ar 5 a 6 Ebrill, a bod y diffyg atgyfeiriadau ffisiotherapi aâr safbwyntiau anghyson ynghylch diwrnodau olaf bywyd Mr X yn fethiannau gwasanaeth ac ar y sail honno, cadarnhaodd y gĹľyn yn rhannol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon ac ymddiheuro i Mrs X am y methiannau a nodwyd o fewn mis, ac o fewn 3 mis i adolygu pam nad oedd meddyginiaeth Betmiga MR ar gael, cymryd camau i atal ailadrodd a sicrhau cyfathrebu cyson yn ystod dyddiau olaf bywyd claf.