Cwynodd Mr A am y gofal aâr rheolaeth a gafodd ei ddiweddar wraig Mrs A yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Athrofaol y Faenor yn ystod ei derbyniad olaf ym mis Rhagfyr 2020. Holodd pam y cafodd ei wraig ei symud i ward COVID-19 pan oedd hiân â bositif iselâ ac y rhoddwyd inswlin iddi pan oedd siwgr ei gwaed yn isel ac yn achosi hypoglycaemia (lefel siwgr isel oherwydd diabetes). Cwynodd Mr A fod y trallwysiad gwaed wedi achosi adwaith niweidiol, a chredai nad oedd y gwaed yn cyfateb i ethnigrwydd ei wraig. Cwynodd Mr A hefyd am gyfathrebu aneffeithiol. Teimlai bod y nyrsys fod wedi bod yn âhiliolâ efallai. Yn olaf, roedd Mr A yn dal yn anfodlon â chadernid ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gĹľyn.
Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon iâr casgliad ei bod yn rhesymol ac yn briodol symud Mrs A i ward COVID-19 pan ddatblygodd dymheredd ac ar Ă´l cymryd camau priodol i brofi am COVID-19 aâi ddiagnosio. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn fodlon bod Mrs A wedi cael ei thrin yn briodol gydag inswlin yn Ă´l yr angen ac nad oedd unrhyw dystiolaeth y rhoddwyd inswlin âdrwy orfodaethâ iddi neu ei bod wedi dioddef adwaith niweidiol iâr inswlin. Ni chanfuâr Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth bod cymhlethdodau neu sgil effeithiau o drallwysiad gwaed Mrs A, a nododd fod gwaed y rhoddwr wedi ei brofi yn erbyn sampl gwaed Mrs A ar gyfer paru, ac nad oedd cyfateb ethnigrwydd yn ofyniad ar gyfer trallwysiad gwaed. Yn unol â hynny, ni chafodd yr agweddau hynny ar gĹľyn Mr A eu cadarnhau.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fethiannau o ran cyfathrebu â Mr A a Mrs A. Tynnodd yr Ombwdsmon sylw at y ffaith, er nad oedd yn gallu gwneud canfyddiadau pendant ynghylch a oedd gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth wedi digwydd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, y gallai wneud sylwadau pe baiân credu ei bod yn briodol gwneud hynny. Roedd hiân fodlon bod polisiâr Bwrdd Iechyd ar wasanaethau iaith a dehongli yn cael ei ddilyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol nad oedd y cyfathrebu â Mr a Mrs A am gyflwr iechyd critigol Mrs A mor effeithiol ag y gallai fod, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19 pan oedd cyfyngiadau ar ymweliadau, ac roedd perthnasauân ddibynnol ar gael eu diweddaru gan staff am statws clinigol eu hanwyliaid. O ganlyniad, roedd Mr A yn aneglur o ran cyflwr a phrognosis ei wraig. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ar y cyfan ag ymateb y Bwrdd Iechyd iâr gĹľyn, ond roedd yn feirniadol nad oedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd wedi canfod y methiannau o ran cyfathrebu a oedd yn golygu bod cyfleoedd i ddysgu gwersi wedi cael eu colli. Achosodd hyn anghyfiawnder i Mr A. Cafodd yr agweddau hyn ar gwynion Mr A eu cadarnhau a gofynnwyd iâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A.