Cwynodd Ms B fod Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Practisâ) wedi methu â chynnig ymgynghoriad wyneb yn wyneb iddi a gofal na thriniaeth briodol ar gyfer problemau gydaâr trwyn aâr anadlu. Ers hynny, roedd wedi cael diagnosis o ganser. Yn anffodus, bu farw Ms B cyn iâr ymchwiliad ddod i ben.
Canfuâr Ombwdsmon, er y dylai Ms B fod wedi cael cynnig ymgynghoriad meddyg teulu wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod o 8 mis, nad oedd yn debygol y byddai wedi golygu bod angen atgyfeiriad neu ofal a thriniaeth amgen bryd hynny. Felly, roedd lefel yr anghyfiawnder yn gyfyngedig. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod Ms B wedi rhoi gwybod iâr Practis am symptomau a ddylai fod wedi arwain at atgyfeiriad brys i gael pelydr-X oâr frest. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu y dylaiâr Practis fod wedi amau bod gan Ms B ganser yr ysgyfaint, neu wedi dechrau ymchwiliadau a allai fod wediâi ganfod â hyd yn oed gyda budd Ă´l-ddoethineb. Er bod adolygiad wedi canfod diffygion yn safon cadw cofnodion y Practis, a gofynnwyd iâr Practis fyfyrio ar hynny, nid oedd hynny wedi effeithioân glinigol ar y canlyniad i Ms B. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn.