Cwynodd Ms X am lythyr a anfonwyd ati gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ây Practisâ) aâi rhybuddiodd am ei hymddygiad. Dywedodd Ms X fod y wybodaeth yn y llythyr yn gwrth-ddweud ei fersiwn hi o ddigwyddiadau a fersiwn ei Gweithiwr Cymorth, a oedd yn bresennol ar y pryd.
Canfuâr Ombwdsmon fod anghysondeb yn y fersiwn o ddigwyddiadau a ddarparwyd gan y Practis aâr hyn a ddarparwyd gan Weithiwr Cymorth Ms X. Fodd bynnag, yn absenoldeb tystiolaeth arall, nid oedd yn gallu cysoniâr gwahanol ddatganiadau mewn ffordd a fyddaiân caniatĂĄu iddi ddod i gasgliad pendant. Wedi dweud hynny, roedd yr Ombwdsmon oâr farn y dylai datganiad y Gweithiwr Cymorth fod yn rhan o gofnodion y Practis i adlewyrchuâr gwahanol safbwyntiau.
Cysylltodd yr Ombwdsmon ââr Practis, ac er mwyn datrys cwyn Ms X, cytunodd y dylai, o fewn 10 diwrnod gwaith, roi cadarnhad ysgrifenedig i Ms X bod datganiad ei Gweithiwr Cymorth wedi cael ei atodi iâr llythyr a anfonwyd ati gan y Practis, aâi fod yn rhan o gofnodion y Practis.