Cwynodd Mr A nad oedd wedi cael cymorth priodol a digonol gan DĂŽm Iechyd Meddwl Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Medi 2020. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ystyriaeth briodol iâw anghenion iechyd meddwl cymhleth pan aeth i Ysbyty Brenhinol Morgannwg (âyr Ysbytyâ) ar 1 a 15 Mehefin 2020 aâi fod wedi methu ei ryddhauân ddiogel. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w gĹľyn yn briodol.
Roedd yr Ombwdsmon oâr farn bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi cymorth iechyd meddwl priodol a digonol i Mr A gan ei DĂŽm Iechyd Meddwl Cymunedol rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Medi 2020. Ni chadarnhawyd yr elfen honno o’r gĹľyn. O ran y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried anghenion Iechyd Meddwl cymhleth Mr A, canfuâr Ombwdsmon ei fod wedi cymryd camau priodol er iddo gael ei wahodd i ystyried angen Mr A am addasiadau rhesymol yn y dyfodol ac i adolygu sut maeân adnabod cleifion ag anabledd yn brydlon pan fyddant yn dod iâr Adran Achosion Brys. Canfuâr Ombwdsmon hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi methu rhyddhau Mr A yn ddiogel ers iddo adael yr ysbyty cyn iddo allu ei ryddhauân ffurfiol. Ni chadarnhawyd yr elfennau hyn oâr gĹľyn.
O ran y ffordd yr ymatebodd y Bwrdd Iechyd i gĹľyn Mr A, canfuâr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb ar y cyd i Mr A iâw bryderon, ei fod wedi cymryd gormod o amser i ddarparu ei ymatebion ac nad oedd wedi rhoi sylw llawn i bryderon Mr A am yr Ysbyty yn yr ymateb a ddarparwyd. Maeân ymddangos hefyd bod y ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi colli rhai o gofnodion ysbyty Mr A wedi effeithio ar ei allu i ymateb yn llawn i bryderon Mr A. Roedd y methiannau hyn o ran delio â chwynion wedi achosi trallod, anhwylustod ac ansicrwydd i Mr A, a oedd yn anghyfiawnder sylweddol ac wedi arwain yr Ombwdsmon i gadarnhauâr gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A, talu iawndal o ÂŁ750 iddo ac argymell bod y Bwrdd Iechyd yn gweithredu mewn ymgais i geisio lleihauâr risg o gam-leoli cofnodion oâr fath yn y dyfodol.