Cwynodd Mrs G fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu darparu gofal a thriniaeth briodol ar gyfer canser ei mam.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er bod y dull clinigol o ddiagnosioâr canser a oedd yn effeithio ar fam Mrs G, Mrs O, o fewn yr ystod o ymarfer priodol, y bu oedi y gellid ei osgoi gan y TĂŽm Amlddisgyblaethol perthnasol (ây TĂŽm Amlddisgyblaetholâ) wrth gynnal ymchwiliadau angenrheidiol. Roedd hyn yn gohirioâr adeg y rhoddwyd cynnig ar y llawdriniaeth, ac ar Ă´l hynny cafodd Mrs O wybod nad oedd modd gwellaâr canser. Er na fyddai triniaeth gynharach, yn anffodus, wedi newid cyfeiriad canser Mrs O, roedd yr oedi wedi gwaethyguâr ansicrwydd iddi hi aâi theulu ar adeg pan oeddent, yn ddealladwy, yn awyddus i gael gwybodaeth glir. Canfuâr ymchwiliad hefyd fod oedi o 4-6 wythnos cyn rhoi apwyntiad cemotherapi i Mrs O ar Ă´l y llawdriniaeth. Byddaiâr oedi pellach hwn wedi achosi gofid a phryder ychwanegol i Mrs O aâi theulu. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuroân llwyr i Mrs G aâi theulu am yr oedi cyn rhoi diagnosis a thrin canser Mrs O. Argymhellodd hefyd y dylaiâr Bwrdd Iechyd sicrhau bod canfyddiadauâr adroddiad yn cael eu hystyried gan fforwm llywodraethu clinigol perthnasol er mwyn cytuno ar gamau gweithredu penodol i sicrhauâr canlynol:
⢠bod y TÎm Amlddisgyblaethol yn trefnu ymchwiliadau a gweithdrefnau yn brydlon
⢠lle mae canfyddiadau clinigol yn awgrymu bod atgyfeiriad oncoleg lliniarol yn briodol, y gwneir atgyfeiriad ar unwaith heb aros am gymeradwyaeth y TÎm Amlddisgyblaethol.