Roedd cwyn Mrs A yn ymwneud ââr gofal aâr driniaeth a gafodd ei diweddar Ĺľr, Mr A, wrth iddo gael ei dderbyn i Ysbyty Maelor Wrecsam (âyr Ysbyty Cyntafâ) ac Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug (âyr Ail Ysbytyâ) yng nghanol 2019. Yn benodol, cwynodd Mrs A fod ei gĹľr wedi cael ei ryddhauân amhriodol oâr Ysbyty Cyntaf ar 18 Mehefin 2019 heb unrhyw Weithiwr Cymdeithasol nac apwyntiad dilynol i gleifion allanol. Ar Ă´l iddo gael ei dderbyn yn Ă´l y diwrnod canlynol, cwynodd Mrs A fod oedi cyn cwblhau gwaith papur cyfeirio (gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol a Therapi Galwedigaethol) ar gyfer trefnu pecyn gofal, a oedd yn golygu bod yn rhaid trosglwyddo ei gĹľr iâr Ail Ysbyty yn hytrach naâi ryddhau gartref. Mynegodd Mrs A bryderon hefyd bod y Bwrdd Iechyd wedi methu nodi ac ymateb yn brydlon i ddirywiad ei gĹľr yn ystod ei arhosiad yn yr Ail Ysbyty. Yn olaf, cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd yr hyn yr oedd hiân ei ystyried yn sgwrs breifat gyda nyrs hosbis ymlaen fel cwyn, ac felly wedi trafod a rhannu ei gwybodaeth bersonol ââr Bwrdd Iechyd heb ei chaniatâd neu heb roi unrhyw gydsyniad.
Canfuâr Ombwdsmon, er bod diffyg eglurder ynghylch rhai agweddau ar y cynllun rhyddhau, fel yng nghyswllt asesiad gwaith cymdeithasol, nad oedd hyn yn effeithio o gwbl ar aildderbyn Mr A iâr Ysbyty Cyntaf. At ei gilydd, canfuâr Ombwdsmon ei bod yn rhesymol o safbwynt meddygol i ryddhau Mr A ar 18 Mehefin. Ni allaiâr Ombwdsmon ychwaith ddod iâr casgliad y byddai trosglwyddiad diweddarach Mr A iâr Ail Ysbyty wedi cael ei osgoi o reidrwydd pe na baiâr oedi cyn anfon atgyfeiriad iâr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi digwydd. O ganlyniad, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn ar y gĹľyn. Fodd bynnag, canfuâr Ombwdsmon nad oedd dirywiad Mr A pan oedd yn yr Ail Ysbyty yn cael ei fonitro naâi weithreduân briodol, a bod cyfle wediâi golli i gael trafodaeth lawn a chlir gyda Mrs A am opsiynau posib wrth symud ymlaen. O ran delio â chwynion, daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod y dryswch cychwynnol aâr camreoli o ran pryderon anffurfiol Mrs A wedyn wediâu gwaethygu gan eiriad y llythyrau a dderbyniodd wedi hynny. O ganlyniad, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn ar gĹľyn Mrs A.
Argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am y diffygion a nodwyd. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylaiâr Bwrdd Iechyd rannuâr adroddiad terfynol â meddyg oâr Ail Ysbyty a chadarnhaodd y byddaiâr adroddiad yn rhan oâu gwerthusiad nesaf.