Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Tai : Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – PSOW Cymraeg

Report Date

28/04/2023

Subject

Tai

Case Reference Number

202208724

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a anfonodd ym Medi 2022.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er i’r Cyngor ymateb ar lafar, nad oedd wedi darparu gwybodaeth weithdrefnol o fewn ymateb ysgrifenedig ffurfiol yn unol â’i weithdrefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth i Mr S.

Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon i roi esboniad ysgrifenedig i Mr S ynglÅ·n â sut yr ymchwiliodd i’w bryderon ar y pryd, ac ymddiheuriad am beidio ag ysgrifennu ato yn gynt. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r uchod o fewn 30 diwrnod gwaith.