Cwynodd Mrs A am y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei diweddar fam, Mrs B, ar Ă´l iddi gael ei throsglwyddo o Ysbyty Brenhinol Gwent (âyr Ysbyty Cyntafâ), yn ystod cyfnod a dreuliodd yn Ysbyty Ystrad Fawr (âyr Ail Ysbytyâ) rhwng 19 Awst ac 8 Medi 2020. Cwynodd nad oedd canllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru wediâu dilyn ar gyfer ymweld â Mrs B yn yr Ail Ysbyty, nid oedd maethiad a meddyginiaeth Mrs B wediâu rheoli yn ystod wythnosau olaf ei bywyd, bu methiant i reoli dirywiad Mrs B ac i ddarparu gofal diwedd oes priodol ac urddasol. Cwynodd Mrs A hefyd nad oedd cofnodion meddygol Mrs B wediâu cynnal yn gywir.
Canfuâr Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu yn unol ââr canllawiau ynglšn â mynediad ymwelwyr iâr Ail Ysbyty yn ystod y cyfnod COVID-19. Canfu bod dirywiad Mrs B wediâi reoli mewn dull priodol ac urddasol ac nad oedd unrhyw ddiffygion arwyddocaol yn ansawdd cofnodion meddygol Mrs B.
Canfuâr Ombwdsmon, ar wahân i un gwall rhagnodi (a ddigwyddodd oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng yr Ysbyty Cyntaf aâr Ail Ysbyty) nag oedd wedi arwain at unrhyw ganlyniad clinigol andwyol, roedd y maethiad a meddyginiaeth Mrs B wediâu rheoliân briodol. Gwahoddodd y Bwrdd Iechyd i fyfyrio ar y methiant er mwyn sicrhau bod gwybodaeth glinigol yn cael ei throsglwyddoân ddigonol rhwng yr ysbytai. Cydnabuâr Bwrdd Iechyd y methiant hwn ac mae wedi cyflwyno dogfen drosglwyddo electronig ar gyfer cleifion, wediâi hategu gan broses drosglwyddo rhwng timau wardiau.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion.