Cwynodd Mrs A am y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei diweddar Ĺľr, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ). Yn benodol, cwynodd a gynhaliwyd adolygiad priodol gan yr Adran Gardioleg i gyflwr Mr A, gan gynnwys mewn cysylltiad â sicrhau nad oedd ei drefn meddyginiaeth frys yn cael effaith andwyol ar ei organau mewnol (yn benodol ei bancreas). Cwynodd Mrs A hefyd am y gofal a dderbyniodd Mr A yn yr Adran Achosion Brys aâr penderfyniad i beidio ei dderbyn yn yr Uned Gofal Dwys (âICUâ) cyn ei farwolaeth o bancreatitis necrotig acĂwt.
Canfuâr Ombwdsmon, er bod esgeulustod gweinyddol a olygodd na chynhaliwyd dau apwyntiad adolygiad Cardioleg, ni fyddaiâr apwyntiadau hyn wedi nodiâr pancreatitis acĂwt a arweiniodd at farwolaeth Mr A yn y pen draw. Hefyd, ni chanfuâr Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod trefn meddyginiaeth Mr A wedi arwain at ddatblygiad ei bancreatitis ac nad oedd angen monitro ei bancreas yn ychwanegol.
Canfuâr Ombwdsmon y bu oedi cyn y cafodd Mr A ei asesu gan feddyg yn yr Adran Achosion Brys, ond nad oedd hyn yn arwyddocaol yn glinigol yn nhermauâr canlyniad yn y pen draw. Canfuâr ymchwiliad bod y gofal clinigol a dderbyniodd Mr A aâr penderfyniadau a wnaed i beidio ei uwchgyfeirio iâr Uned Gofal Dwys yn briodol.
Ni chadarnhawyd y cwynion.