Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cymdeithas Tai Linc Cymru : Cymdeithas Tai Linc Cymru – PSOW Cymraeg

Report Date

12/05/2023

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cymdeithas Tai Linc Cymru

Case Reference Number

202208371

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms I nad oedd Cymdeithas Tai Linc Cymru wedi cymryd camau gweithredu rhagweithiol i ddatrys materion atgyweiriadau yn ei chartref, ac yn benodol dŵr yn gollwng.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn ffurfiol a godwyd gan Ms I yn Ionawr 2023, a oedd wedi’i hanwybyddu.

Penderfynodd bod y proses gyfathrebu a’r ffordd yr aed i’r afael â’r gŵyn wedi bod yn wael, a oedd wedi achosi rhwystredigaeth bellach i Ms I.

Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r mater heb ymchwiliad a gofynnodd a chafodd gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Ms I o fewn tair wythnos i ymddiheuro iddi ac esbonio’r rhesymau dros yr oedi. Cytunwyd hefyd i esbonio’r camau a gymerir i ddatrys y materion a godwyd a chynnig taliad ariannol o £200 am yr amser a’r drafferth.