Cafodd yr Ombwdsmon gĹľyn bod Cyn Aelod (âyr Aelodâ) o Gyngor Tref Abergele (ây Cyngorâ) wedi torri amodauâr Cod Ymddygiad oherwydd methiannau wrth weithredu fel Clerc i Fwrdd dan reolaeth y Cyngor hwn a chyngor cyfagos (ây Bwrddâ).
Penodwyd yr Aelod yn Glerc y Bwrdd. Adeg yr apwyntiad, roedd yr Aelod ac aelodauâr Bwrdd oâr farn bod y Bwrdd yn gorff annibynnol.
Y gĹľyn oedd bod yr Aelod wedi methu â chyflawni tasgau gofynnol, honniân anghywir bod y Bwrdd yn gorff annibynnol, pan nad oedd, aâi fod wedi cymryd cyflog gan y Bwrdd yn amhriodol. Roedd y gĹľyn yn awgrymu bod y camau hyn wedi arwain at adroddiad beirniadol gan Archwilio Cymru a gafodd effaith negyddol ar enw daâr Bwrdd aâr cynghorau syân gysylltiedig ag ef.
Ystyriodd yr ymchwiliad gamau gweithreduâr Aelod aâr Bwrdd drwy adolygu dogfennau a chyfweld tystion perthnasol. Canfuâr ymchwiliad fod y Bwrdd aâr cynghorau syân gysylltiedig ag ef i gyd yn gweithredu o dan y camddealltwriaeth ei fod yn gorff annibynnol ac nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw un wedi cymryd camau i ganfod y sefyllfa gyfreithiol gywir.
Canfuâr ymchwiliad y penodwyd y Clerc drwy broses recriwtio, a bod pawb a oedd yn gysylltiedig oâr farn eu bod yn gymwys i gyflawniâr rĂ´l. Nid oedd y cyfrifon aâr dogfennauân cael eu cadwân dda iawn ac er bod gan yr Aelod rywfaint o gyfrifoldeb dros hynny, nid oedd fawr ddim goruchwyliaeth gan y Bwrdd naâr cynghorau cysylltiedig.
Canfuâr ymchwiliad nad oedd yr Aelod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod etholedig pan ymgymerodd ââi rĂ´l fel Clerc, felly nid oedd yr holl God Ymddygiad yn berthnasol.
Maeâr cyfrifoldeb dros lywodraethu gwael y Bwrdd yn nwylo pawb syân gysylltiedig. Canfuwyd hefyd bod yr Aelod wedi cymryd y cyflog yn ddidwyll ac nad oedd wedi camarwain neb ynghylch ei rĂ´l naâi thâl am y rĂ´l honno. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon oâr farn bod yr Aelod yn gyfrifol i raddau helaeth am fethu â sefydlu sefyllfa gyfreithiol y Bwrdd ac y dylaiâr Aelod fod wedi gwneud gwaith ymchwil priodol yn gynt. Mae methu â gwneud hynny yn rhoi enw daâr Bwrdd aâr Cyngor mewn perygl ac maeân awgrymu fod amodau paragraff 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad wedi eu torri.
Er y nodir bod camau gweithreduâr Aelod yn awgrymu bod amodauâr Cod Ymddygiad wedi cael eu torri, roedd mesurau lliniaru sylweddol wedi codi oherwydd bod pawb a oedd yn gysylltiedig yn gweithredu o dan yr un gred anghywir bod y Bwrdd yn endid ar wahân ac nad oedd neb wedi gofyn am gyngor annibynnol ar y mater hwn. Hyd yn oed pe bai atgyfeiriad at y Pwyllgor Safonau, maeân ymddangos, o ystyried y mesurau lliniaru, aâr ffaith bod yr Aelod hefyd wedi ymddeol o fywyd cyhoeddus erbyn hyn, ei bod yn annhebygol, hyd yn oed pe bai achos o dorri amodauâr Cod Ymddygiad yn cael ei brofi, y byddai sancsiwn o unrhyw fath yn cael ei roi. Gan hynny, o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, y canfyddiad yw nad oes angen cymryd unrhyw gamau yng nghyswllt y materion yr ymchwiliwyd iddynt.