Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – PSOW Cymraeg

Report Date

22/06/2023

Subject

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Case Reference Number

202105165

Outcome

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Feddygfa Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn benodol, cododd Mr X bryderon am y gofal a’r driniaeth a gafodd mewn perthynas â rheoli poen cronig a lleihau dos ei opioid dyddiol; problemau gyda’r coluddyn; a phroblemau gyda’r asgwrn cefn a’r greuan.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr X yn rhesymol ym mhob elfen.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion. Gan na nodwyd unrhyw fethiant, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion ynghylch y gŵyn hon.