Cwynodd Mr A am y gofal aâr driniaeth a gafodd gan y Practis wrth iddo ragnodi meddyginiaeth opioid i reoli ei boen ar Ă´l iddo gael llawdriniaeth colli pwysau (bariatrig), ac a oedd ymchwiliadau priodol wediâu cynnal ar Ă´l iddo gwympo. Cwynodd hefyd am y modd roedd y Practis wedi ymdrin ââi gĹľyn ac wedi ymchwilio iddi.
Canfuâr ymchwiliad mai hyn a hyn o opsiynau oedd ar gael iâr Practis er mwyn rheoli poen Mr A, aâi bod yn glinigol briodol i ragnodi opiadau i Mr A ac ystyried nad oedd canllawiau cenedlaethol yn atal hynny. Ar ben hynny, canfuwyd bod ymchwiliadau priodol wedi cael eu cynnal pan syrthiodd Mr A. Ni chafodd yr un oâr agweddau hyn ar gĹľyn Mr A eu cadarnhau. O ran delio â chĹľyn Mr A, canfuâr ymchwiliad nad oedd ymateb y Practis iâr gĹľyn yn cyd-fynd â âGweithio i Wellaâ (y broses ffurfiol ar gyfer delio â chwynion am y GIG yng Nghymru), gan nad oedd yn fanwl ac roedd wediâi ddrafftioân wael. Roedd hyn wedi gwneud i Mr A deimlo nad oedd ei bryderon wedi cael eu cymryd o ddifrif. Roedd hyn yn anghyfiawnder iddo, a gallai hyn hefyd fod wedi osgoi cwyn iâr Ombwdsmon pe bai wediâi gweithreduân briodol. Cafodd y gĹľyn hon ei chadarnhau.
Derbyniodd y Practis argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr A am y methiannau o ran delio â chwynion, ac i gysylltu ââr Bwrdd Iechyd lleol i gael hyfforddiant delio â chwynion.