Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

02/06/2023

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202300111

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) am y driniaeth a roddodd y bwrdd, a sefydliadau eraill, iddi. Roedd Miss B yn anfodlon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi gwybod i’r sefydliadau eraill am ei chŵyn ac nad oedd ei ymateb ysgrifenedig i’r gŵyn yn mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd ganddi.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cydymffurfio â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau”) yn ei fethiant i gydlynu ymateb ac ymchwiliad ar y cyd i’r pryderon a godwyd gan Miss B. Ar ben hynny, daeth i’r casgliad, er bod y Bwrdd Iechyd wedi trefnu cyfarfod â Miss B i drafod ei phryderon, nad oedd hyn yn dileu’r gofyniad i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Miss B, yn unol â’r Rheoliadau.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Miss B, cytunodd y byddai’n rhoi ymateb ysgrifenedig llawn i’w chĹľyn, o fewn 20 diwrnod gwaith, a fydd yn rhoi sylw i’r holl faterion a godwyd, ac i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss B am ei fethiant i gynnal ymchwiliad ar y cyd ac am beidio â throsglwyddo ei chĹľyn i’r sefydliadau eraill roi sylw iddi.