Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Trivallis – PSOW Cymraeg

Report Date

12/06/2023

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202301057

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss L fod Trivallis wedi methu gweithredu ar bryderon ynghylch eiddo tamp, wedi llwydo. Cwynodd hefyd fod y gwaith wedi’i ohirio ac wedi achosi difrod pellach i’w heiddo.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y bu oedi sylweddol cyn datrys pryderon Miss L a’i fod wedi methu cwblhau gwaith a addawyd yn brydlon. Daeth i’r casgliad hefyd fod angen ymchwilio i bryderon heb eu datrys a dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Miss L am yr oedi, i ymchwilio ac asesu unrhyw waith pellach sydd ei angen ar yr eiddo, i ddarparu ymateb pellach i’r gŵyn, ac i roi taliad amser a thrafferth o £100 o fewn 30 diwrnod gwaith.