Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – PSOW Cymraeg

Report Date

19/06/2023

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202301770

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L, er iddo godi pryderon ynglŷn â hanes hir o gamgyfathrebu a chanslo llawdriniaeth frys ar y llygaid ym mis Hydref 2022, nid oedd wedi cael ymateb eto.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y bu oedi sylweddol gan y Bwrdd Iechyd wrth roi ymateb i Mr L, a’i fod wedi methu ymateb i nifer o geisiadau am y wybodaeth ddiweddaraf. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad ac esboniad i Mr L am yr oedi, i ymateb i’w gŵyn, ac i roi taliad amser a thrafferth o £150 iddo o fewn 30 diwrnod gwaith.