Cwynodd Mrs A wrth yr Ombwdsmon pan gafodd ei mam, Mrs B ei derbyn i’r Adran Achosion Brys (âyr EDâ) yn Ysbyty Tywysoges Cymru (âyr Ysbytyâ), eu bod wedi methu ag asesu ac ymchwilio iâw symptomau a oedd yn arwydd o strĂ´c yn ddigon cyflym. Roedd oâr farn bod y methiant hwn wedi effeithio ar y dewisiadau o ran triniaeth a fyddai wedi bod ar gael fel arall, gan gynnwys llawdriniaeth, i ddelio ââr gwaedlif ar ei hymennydd a gafodd ei nodi wedyn. Cwynodd Mrs A hefyd fod ei mam wedi cael Covid-19 yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty ar Ă´l hynny.
Canfuâr Ombwdsmon fod oedi amhriodol rhwng brysbennu Mrs B aâr adeg y cafodd ei hasesu gan feddyg yn yr Adran Achosion Brys hyd yn oed wrth ystyried yr effaith a gafodd pandemig COVID-19 ar ddarparu gwasanaethauâr GIG. Dylai Mrs B fod wediâi hasesuân gyflym gan ddefnyddio sgĂ´r Rosier, ond ni chafodd hyn ei wneud yn brydlon. Roedd hyn gyfystyr â methiant yn y gwasanaeth gan y Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, ni chanfuâr Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol y byddaiâr oedi wedi newid y canlyniad trist i Mrs B. Serch hynny, gwnaeth yr Ombwdsmon gadarnhauâr gĹľyn iâr graddau cyfyngedig y byddaiâr methiant hwn wedi arwain at ansicrwydd i Mrs A y byddaiâr canlyniad wedi bod yn wahanol. Ni chafodd y gĹľyn fod Mrs B wedi cael COVID-19 ar Ă´l iddi gael ei derbyn iâr Ysbyty ei chadarnhau oherwydd daethpwyd iâr casgliad, rhwng popeth, ei bod yn fwy tebygol bod Mrs B wedi dal y feirws cyn iddi fynd iâr Ysbyty.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mrs A am y diffygion a nodwyd yn yr adroddiad. Argymhellodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn sicrhau bod y diffygion a nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu defnyddio gydaâr staff clinigol a fuân ymwneud â gofal Mrs B at ddibenion dysgu drwy bwyso a mesur. Yn olaf, argymhellodd yr Ombwdsmon fod y
Bwrdd Iechyd yn atgoffa meddygon locwm a meddygon dan hyfforddiant adeg ddechrau eu gwasanaeth yn y Bwrdd Iechyd ynghylch y llwybr strĂ´c.