Cwynodd Mrs N am agweddau ar ofal ei mam, Mrs V, aâi rhyddhau o Ysbyty Penrhos Stanley rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Mai 2020. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd oedi cyn rhyddhau Mrs V i gartref nyrsio, a fethwyd â chefnogi Mrs V i herio awdurdodiad Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (âDoLSâ), a oedd y Bwrdd Iechyd wedi dibynnu ar Atwrneiaeth Arhosol (âLPAâ) iechyd a lles i gyfiawnhau peidio â chyfathrebu â Mrs N aâi brawd, Mr B, a oedd yn briodol rhyddhau Mrs V i gartref nyrsio heb ymgynghori â Mrs N a Mr B na rhoi gwybod iddynt beth oedd ei chyfeiriad newydd, a fethwyd â sicrhau y gallaiâr cartref nyrsio fodloni anghenion Mrs V, a pâun a gafodd y trefniadau cyllido iechyd eu terfynu heb adolygiad priodol. Canfuâr Ombwdsmon fod rhesymau da dros yr oedi cyn rhyddhau Mrs V. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithreduân rhesymol wrth ddelio â Mr A fel deiliad yr Atwrneiaeth Arhosol mewn perthynas â dewis cartref nyrsio; roedd wedi gwneud yn siĹľr y gallaiâr cartref nyrsio fodloni anghenion Mrs V, ac adolygodd y lleoliad tua 2 fis yn ddiweddarach. Cafodd y lleoliad ei ariannu drwy gynllun Llywodraeth Cymru i hwyluso rhyddhau cleifion oâr ysbyty yn ystod pandemig COVID-19, ac roedd y trefniant cyllido hwn wedi parhau. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhannau hyn oâr gĹľyn. Fodd bynnag, canfuâr Ombwdsmon y bu oedi cyn iâr Bwrdd Iechyd wneud cais am awdurdodiadau DoLS brys a safonol, a oedd yn golygu na chafodd Cynrychiolydd y Person Perthnasol ei benodiân brydlon. Felly, am gyfnod, collodd Mrs V ei chyfle i herioâr awdurdodiad safonol, a oedd yn anghyfiawnder iddi ac arfer ei hawliau dynol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen honno oâr gĹľyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am y diffygion hyn, sicrhau bod staff yn cael eu hatgoffa oâu dyletswyddau cyfreithiol i sicrhau bod ceisiadau DoLS yn cael eu gwneud yn ddi-oed, a chynnal archwiliad oâi geisiadau DoLS aâu cydymffurfiad â rheoliadau a chanllawiau.