Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – PSOW Cymraeg

Report Date

30/08/2023

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202107990

Outcome

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Dr B am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) cyn, yn ystod ac ar Ă´l geni ei phlentyn cyntaf ar 1 Mawrth 2021. Ystyriodd yr ymchwiliad a gafodd yr arwyddion a oedd ar gael bod babi Dr B yn debygol o fod yn llawer mwy na’r maint cyfartalog eu hystyried yn ddigonol wrth gynllunio a chynorthwyo â’r geni, ac a ddylid bod wedi gwneud mwy i ddechrau/symud y broses esgor yn gyflymach, gan gynnwys ysgogi a/neu doriad cesaraidd. Roedd hefyd wedi ystyried a oedd unrhyw arwyddion fod deunydd estron wedi’i adael yng nghroth Dr B ar Ă´l y toriad cesaraidd, ac a oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gĹľyn yn briodol.

Canfu’r ymchwiliad, er bod esgoriad Dr B wedi’i ymestyn, fod y gofal a’r driniaeth a roddwyd iddi yn unol â’r canllawiau perthnasol. Er na chafodd y deunydd a basiodd ar ôl geni erioed ei enwi’n bendant, nid oedd digon o dystiolaeth i bennu ei fod yn debygol o fod oherwydd deunydd estron a adawyd ar ôl y toriad cesaraidd. O ganlyniad, ni chadarnhawyd yr elfennau hyn o’r gŵyn. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad rai materion yn ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, ac felly cafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Dr B am y materion a nodwyd ac atgoffa’r staff sy’n delio â chwynion y Bwrdd Clinigol am bwysigrwydd adolygu’r ymatebion i gwynion er mwyn sicrhau cysondeb a chywirdeb.