Cwynodd Mrs D fod oedi gyda diagnosis a thriniaeth ei diweddar Ĺľr, Mr D, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phractis Meddyg Teulu yn ardal y Bwrdd Iechyd. Cwynodd Mrs D fod cyfleoedd wediâu colli iâr Bwrdd Iechyd roi diagnosis i Mr D o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint (âILDâ – term cyffredinol syân cynnwys nifer o wahanol glefydauâr ysgyfaint) a ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint (âIPFâ – math o glefyd yr ysgyfaint) rhwng 2015 a 2021. Cwynodd Mrs D hefyd fod Mr D wediâi atgyfeirio at y Clinig Anadlol ym mis Ionawr 2021 ond na chafodd ei weld tan 28 Mai 2021. Cwynodd Mrs D fod Mr D wedi ymweld ââr Practis sawl gwaith dros y blynyddoedd cyn ei farwolaeth ac na chafodd ddiagnosis o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint ar yr adegau yr aeth yno gydaâr symptomau perthnasol. Cwynodd Mrs D hefyd y dylaiâr Practis fod wedi cymryd camau i gyflymu apwyntiad Mr D gydaâr Clinig Anadlol yn 2021 pan oedd ei symptomauân gwaethygu.
Canfuâr Ombwdsmon fod cyfleoedd wediâu colli iâr Bwrdd Iechyd roi diagnosis o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint i Mr D a chafodd y gĹľyn hon ei chadarnhau. Canfuâr ymchwiliad fod yr amser a gymerwyd i weld Mr D yn y clinig Anadlol yn 2021 yn rhesymol ac ni chafodd y gĹľyn hon ei chadarnhau. Canfuâr ymchwiliad hefyd fod y gofal aâr driniaeth a ddarparwyd gan y Practis yn rhesymol ac ni chafodd y cwynion hyn eu cadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs D a thalu ÂŁ2000 iddi am y cyfleoedd a gollwyd i roi diagnosis i Mr D, yr ansicrwydd a achosodd hyn iddo, aâr ansicrwydd aâr trallod parhaus mae hyn wediâi achosi i Mrs D. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i rannuâr adroddiad â chlinigwyr perthnasol, sicrhau bod yr holl glinigwyr perthnasol yn cael eu hatgoffa oâu dyletswydd i gymryd camau priodol pan nodir annormaleddau mewn delweddau, ac i roiâr wybodaeth ddiweddaraf am y camau a nodwyd yn ymchwiliad y Bwrdd Iechyd ei hun i sicrhau yr ymdrinnir ag annormaleddau radiolegol cysylltiedig ac iâr Adran Llywodraethu Radioleg ystyried ychwanegu at gasgliadau adroddiadau os ywâr hyn a welir wedi newid ers y delweddau blaenorol.