Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Meddyginiaeth > Dosbarthu presgripsiynau : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – PSOW Cymraeg

Report Date

30/08/2023

Subject

Meddyginiaeth > Dosbarthu presgripsiynau

Case Reference Number

202303543

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X ei fod wedi cael ei gam-drin gan ei Bractis Meddyg Teulu am 14 mlynedd. Dywedodd, er ei fod wedi mynegi ei bryderon ynghylch materion â phresgripsiynau, wedi cael cyfarfod â Rheolwr y Practis, ac wedi cysylltu â’r Ombwdsmon eisoes, ei fod yn dal i wynebu problemau o hyd.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Practis wedi bod mewn cysylltiad â Mr X ynghylch y materion dan sylw, nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn yn unol â’i drefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth a dryswch i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Practis i roi ymddiheuriad i Mr X ac ymateb i’w gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.