Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam, Mrs D, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (ây Bwrdd Iechydâ) yn Ysbytyâr Tywysog Siarl (âyr ysbytyâ). Yn benodol, roedd Mrs A yn pryderu bod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu gwasanaeth rheoli poen amserol a phriodol i’w mam yn ystod ei harhosiad yn yr ysbyty. Roedd hi hefyd oâr farn bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud y penderfyniad i gategoreiddio Mrs D fel rhywun oedd angen gofal lliniarol yn rhy gynnar a bod y Bwrdd wedi gwneud hyn heb roi eglurhad digonol ynghylch y mater i’w theulu. Yn olaf, cwynodd Mrs A bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymchwilioân briodol i symptomau Mrs D ac wedi methu eu trin yn briodol oherwydd bod ei mam wedi cael ei chategoreiddio fel rhywun oedd angen gofal lliniarol.
Canfu’r ymchwiliad bod y gofal aâr driniaeth a gafodd Mrs D yn ystod ei derbyniad i’r Ysbyty ym mis Mehefin 2021, at ei gilydd, yn rhesymol ac yn briodol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhauâr gĹľyn. Yn benodol, canfuâr Ombwdsmon ei fod yn briodol bod y clinigwyr wedi cyfeirio Mrs D at y TĂŽm Gofal Lliniarol pan wnaethon nhw. Serch hynny, nid oedd yn glir a roddwyd eglurhad i deulu Mrs D adeg yr atgyfeiriad dan sylw. Canfu’r Ombwdsmon nad yw peidio ymgynghori â pherthnasau cyn gwneud atgyfeiriad o’r fath yn beth anarferol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhauâr elfen hon oâr gĹľyn, ond gwahoddodd y Bwrdd Iechyd i ystyried y ffordd y rhoddir gwybod i aelodau o deulu claf ynghylch atgyfeiriad gofal lliniarol.