Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo : Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – PSOW Cymraeg

Report Date

05/09/2023

Subject

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Case Reference Number

202201652

Outcome

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr C am y gofal a gafodd ei ddiweddar dad, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) pan gafodd Mr A ei ryddhau o Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr Ysbyty”) ar 8 Rhagfyr 2021. Roedd yn pryderu a ddeliwyd yn briodol â rhyddhau Mr A o’r Ysbyty ac a wnaed hynny’n unol â chanllawiau perthnasol, a hefyd ynghylch y ffordd y deliwyd â’i gĹľyn.

Canfu’r ymchwiliad yr ymdriniwyd yn briodol â rhyddhau Mr A o’r Ysbyty, felly ni chadarnhawyd yr elfen hon o’r gĹľyn. Fodd bynnag, roedd elfen o’r broses delio â chwynion (o ran cais yn ymwneud â lluniau teledu cylch cyfyng) yn is na’r safon briodol. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o’r gĹľyn yn rhannol ac argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr C am y methiant a nodwyd, y dylai gynnig taliad o ÂŁ375 iddo i gydnabod yr anghywirdeb o ran y lluniau teledu cylch cyfyng, ac y dylai ddwyn yr adroddiad i sylw’r staff trin cwynion perthnasol a’u hatgoffa o bwysigrwydd cywirdeb a bod yn dryloyw.