Cwynodd Ms B am y gofal aâr driniaeth a gafodd ei mab, Mr C, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) yn ystod ac yn dilyn ei dderbyniad i Ysbyty Glan Clwyd ym mis Gorffennaf 2021. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Bwrdd Iechyd wedi gwahaniaethuân anuniongyrchol yn erbyn Mr C drwy beidio ag ystyried ei gefndir ethnig, a oedd y broses o ryddhau Mr C o’r ysbyty aâr trefniadau a wnaed ar gyfer ei ryddhau, gan gynnwys cyfathrebu â Ms B fel ei ofalwr, yn rhesymol, ac a oedd y gwasanaeth dilynol gan y TĂŽm Triniaeth yn y Cartref/Cydlynydd Gofal yn briodol. Hefyd, ystyriodd fethiant y Bwrdd Iechyd i gynnal asesiad Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth.
Canfu’r Ombwdsmon bod y gofal aâr driniaeth a gafodd Mr C yn ystod ac yn dilyn ei dderbyniad i’r Ysbyty ym mis Gorffennaf 2021 yn briodol yn glinigol ac ni chadarnhawyd cwyn Ms B.