Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – PSOW Cymraeg

Report Date

07/09/2023

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202203156

Outcome

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei merch, Miss B, gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”). Yn yr ymchwiliad, ystyriwyd a oedd y gofal a gafodd Miss B rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Medi 2021 (yn y gymuned ac fel claf mewnol) at ei gilydd, yn briodol, a ystyriwyd awtistiaeth Miss B, ac a wnaed addasiadau ar gyfer hyn o ran y ffordd roedd pobl yn gweithio/yn cyfathrebu â hi ac a oedd rhyddhau Miss B o’r ysbyty ym mis Medi 2021 heb wneud trefniadau ar gyfer llety, yn briodol.

Canfu’r Ombwdsmon bod y gofal a’r driniaeth a gafodd Miss B rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Medi 2021 yn briodol yn glinigol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gĹľyn.