Cwynodd Ms C am reolaeth a gofal ei diweddar bartner yn Ysbyty Gwynedd (âyr Ysbyty Cyntafâ) yn dilyn datblygiad ei ganser arennol yn 2021. Cwynodd hefyd nad oedd y penderfyniad a wnaed i beidio â throsglwyddo Mr B i ysbyty yn Lloegr (âyr Ail Ysbytyâ) ar 3 Medi wediâi gyfleuân ddigonol iddo ef a/neu ei deulu.
Canfuâr ymchwiliad fod triniaeth cemotherapi Mr B wediâi stopioân briodol (o ystyried y risg o waedu) iddo gael triniaeth lawfeddygol yn yr Ail Ysbyty ac ymchwiliadau dilynol eraill. Daeth yr ymchwiliad iâr casgliad oâr cofnodion ei bod yn ymddangos mai prif boen Mr B oedd effeithiau peswch hirfaith, a achoswyd gan y canser yn ei lwybr anadlu, a bod camau priodol wediâu cymryd i geisio mynd iâr afael â hyn drwy ymyriadau amrywiol. Roedd y risg o waedu oâr tiwmor yn llwybrau anadlu Mr B – yn hytrach na pheswch Mr B – yn anochel, o ystyried datblygiad ei ganser.
Nodwyd y gallai ymyrraeth lliniarol fod wedi cael ei thrafod gyda Mr B aâi deulu, unwaith y daeth datblygiad clefyd Mr B yn 2020 yn amlwg, ac nid ei ddiystyru oherwydd nad oedd yn ddiwedd oes, o ystyried y cymorth cyfannol y gall gofal lliniarol ei ddarparu. Yn ogystal, gellid bod wedi gwneud mwy i fonitro lefelau poen Mr B yn ystod ei dderbyniad olaf fel claf mewnol a chanfuâr ymchwiliad ddiffygion dogfennol ynghylch hyn. Yr anghyfiawnder i Mr B a Ms C oedd y gallai ymyrraeth gofal lliniarol fod wedi golygu eu bod wediâu paratoiân well ar gyfer yr hyn oedd i ddigwydd. Yn ogystal, gallai gofal lliniarol fod wedi helpu pe bai problemau gyda rheolaeth poen Mr B. Iâr graddau hynny cafodd cwyn Ms C ei chadarnhau.
Daeth yr ymchwiliad hefyd iâr casgliad bod methiannau cyfathrebu ynghylch trosglwyddo Mr B iâr Ail Ysbyty ac maiâr anghyfiawnder i Ms C oedd bod yn rhaid iddi gwyno ymhellach i gael atebion. Cafodd y rhan hon o gĹľyn Ms C ei chadarnhau hefyd.
Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn cynnwys y canlynol: bod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Ms C aâi theulu am y methiannau a nodwyd. Yn ogystal, fel rhan o ddysgu gwersi, dylid atgoffa clinigwyr o rĂ´l y tĂŽm gofal lliniarol yn ogystal ââr angen i fonitro lefelau poen claf canser yn ystod derbyniadau cleifion mewnol. Argymhellwyd newidiadau o amgylch dogfennaeth y tĂŽm amlddisgyblaethol canser hefyd.